Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
13 Hydref 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12456
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gofynnwyd cwestiynau 1–2 a 4–10. Ni ofynnwyd cwestiwn 3. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.02
Gwnaeth Huw Irranca-Davies ddatganiad am: Lansiad 'Pecyn Teithio Llesol i'r Ysgol' y Grŵp Trawsbleidiol ar Deithio Llesol.
Gwnaeth Cefin Campbell ddatganiad am: Llongyfarch y chwaraewr dartiau o Gymru, Jonny Clayton, a lwyddodd i ennill pencampwriaeth y ‘World Grand Prix’ ar y penwythnos.
Gwnaeth Altaf Hussain ddatganiad am: Cefnogi Diwrnod Arthritis y Byd.
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor
Dechreuodd yr eitem am 15.08
NDM7804 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Alun Davies (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn lle Jayne Bryant (Llafur Cymru)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.08 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
5 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Manteision cymunedol prosiectau ynni
Dechreuodd yr eitem am 15.19
NDM7794 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi pwysigrwydd ynni adnewyddadwy wrth geisio lleihau ein hôl-troed carbon.
2. Yn cytuno bod angen sicrhau fod pob datblygiad ynni yn dod a budd i’r cymunedau lle’u lleolir.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, unai drwy reoliadau neu ddeddfwriaeth newydd, i fynnu bod datblygwyr prosiectau ynni yn gorfod profi budd cymunedol eu datblygiadau arfaethedig drwy orfod cynnal asesiad effaith cymunedol a chyflwyno cynllun budd cymunedol fel rhan o’r broses gynllunio.
Cyd-gyflwynwyr
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl Plaid Cymru - Y sector ynni a'r argyfyngau hinsawdd a natur
Dechreuodd yr eitem am 16.08
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7803 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) datganiad y Senedd o argyfwng hinsawdd yn 2019, ac argyfwng natur yn 2021;
b) y bydd 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) yn cyfarfod yr Hydref hwn i gytuno ar gamau gweithredu cydgysylltiedig i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd;
c) y bydd 15fed cyfarfod Cynhadledd y Partïon (COP15) i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol (CBD) yn cyfarfod y gwanwyn nesaf i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang;
d) targed Llywodraeth Cymru i gyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2050;
e) cred y Senedd y dylid sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng natur (NDM7725);
f) bod y Senedd wedi pasio NDM7725 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) geisio datganoli rheolaeth Ystad y Goron a'i hasedau yng Nghymru yn llawn i Lywodraeth Cymru;
b) ceisio datganoli pwerau ynni yn llawn;
c) gwneud y mwyaf o botensial Cymru ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy sefydlu cwmni datblygu ynni a gefnogir gan y wladwriaeth;
d) datblygu gweithlu sero-net yng Nghymru drwy hwyluso ymdrechion traws-sector i uwchsgilio gweithwyr yn y sector ynni;
e) hwyluso'r gwaith o ehangu'r pŵer adnewyddadwy sy'n angenrheidiol i gwrdd â sero-net drwy fuddsoddi'n helaeth mewn uwchraddio grid trydan Cymru;
f) datblygu a gweithredu strategaeth ar gyfer porthladdoedd Cymru, a cheisio cyllid pellach gan Lywodraeth y DU ar gyfer seilwaith porthladdoedd yng Nghymru i gefnogi'r sector gwynt ar y môr sy'n datblygu;
g) datblygu a gweithredu cynllun datblygu morol i roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni drwy arwain y gwaith o nodi datblygiadau adnewyddadwy i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf sensitif o safbwynt ecolegol.
NDM7725 - Dadl gan Wrthblaid ar 30 Mehefin 2021
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
42 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni prosiectau ynni mawr i Gymru;
b) croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £90 miliwn i brosiectau sero-net arloesol yng Nghymru;
c) adeiladu ar y ffaith bod diwydiant a Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fuddsoddi dros £40 miliwn i gefnogi'r clwstwr o ddiwydiannau yn ne Cymru i bontio i sero net;
d) cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi darparu £4.8 miliwn, yn amodol ar achos busnes a chymeradwyaethau eraill, i gefnogi datblygiad hwb hydrogen Caergybi;
e) yn croesawu Cronfa Bwyd Môr y DU, sydd werth £100 miliwn, a gynlluniwyd i lefelu cymunedau arfordirol ledled y DU, a gweithio i weithredu yn hytrach nag oedi cyn creu porthladd rhydd yng Nghymru;
f) gwneud y mwyaf o'r potensial ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy sefydlu pecyn o gymorth ar gyfer buddsoddiad preifat mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy;
g) hwyluso goruchafiaeth gynyddol ynni adnewyddadwy drwy roi mwy o frys ar sicrhau y gall seilwaith ddarparu ar gyfer galw;
h) datblygu a gweithredu cynllun datblygu morol;
i) creu 15,000 o swyddi glas/gwyrdd newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
41 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cadarnhau ei hymrwymiad i'r egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori yn Natganiad Silesia i gefnogi gweithwyr drwy drosglwyddo teg i net sero.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) chwarae ei rhan i alluogi trawsnewid ein system ynni i gadw manteision economaidd a chymdeithasol o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng nghymunedau Cymru.
b) cynyddu capasiti cynhyrchu ynni sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol.
c) cefnogi porthladdoedd Cymru i sicrhau eu bod yn gallu buddsoddi i sicrhau'r manteision lleol mwyaf posibl o ddatblygu cynhyrchu ynni morol.
d) diogelu bioamrywiaeth morol tra'n hwyluso'r defnydd o dechnoleg ynni morol, gan gynnwys drwy ddarparu canllawiau ar gyfer deall y lleoliadau mwyaf addas.
Yn galw ar arweinwyr byd-eang i ddefnyddio 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd i ymrwymo i roi terfyn ar y defnydd o lo wrth gynhyrchu ynni.
Datganiad Silesia(Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
13 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) datganiad y Senedd o argyfwng hinsawdd yn 2019, ac argyfwng natur yn 2021;
b) y bydd 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) yn cyfarfod yr Hydref hwn i gytuno ar gamau gweithredu cydgysylltiedig i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd;
c) y bydd 15fed cyfarfod Cynhadledd y Partïon (COP15) i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol (CBD) yn cyfarfod y gwanwyn nesaf i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang;
d) targed Llywodraeth Cymru i gyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2050;
e) cred y Senedd y dylid sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng natur (NDM7725);
f) bod y Senedd wedi pasio NDM7725 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol.
2. Yn cadarnhau ei hymrwymiad i'r egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori yn Natganiad Silesia i gefnogi gweithwyr drwy drosglwyddo teg i net sero.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) chwarae ei rhan i alluogi trawsnewid ein system ynni i gadw manteision economaidd a chymdeithasol o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng nghymunedau Cymru.
b) cynyddu capasiti cynhyrchu ynni sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol.
c) cefnogi porthladdoedd Cymru i sicrhau eu bod yn gallu buddsoddi i sicrhau'r manteision lleol mwyaf posibl o ddatblygu cynhyrchu ynni morol.
d) diogelu bioamrywiaeth morol tra'n hwyluso'r defnydd o dechnoleg ynni morol, gan gynnwys drwy ddarparu canllawiau ar gyfer deall y lleoliadau mwyaf addas.
4. Yn galw ar arweinwyr byd-eang i ddefnyddio 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd i ymrwymo i roi terfyn ar y defnydd o lo wrth gynhyrchu ynni.
NDM7725 - Dadl gan Wrthblaid ar 30 Mehefin 2021
Datganiad Silesia(Saesneg yn unig)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
7 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.03 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 17.13
Crynodeb o Bleidleisiau
8 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.16
NDM7795 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cyflawni'r weledigaeth: codi'r gwastad yn y cymoedd
Daeth y cyfarfod i ben am 17.46
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 19 Hydref 2021